Ymgeiswyr Etholiadau 2012

Mae Emyr Webster wedi cael ei ddewis fel un o'r tri ymgeisydd ar gyfer Ward Treorci ar gyfer Etholiadau'r Cyngor yn 2012, ynghyd a'r Cynghorwyr presennol, Sêra Evans-Fear a Cennard Davies, a fydd yn gobeithio cael eu hail-hethol. Ar ol gwasanaethu'n frwd yn ward Treorci ers 1999, roedd Cangen Treorci o Blaid Cymru yn drist i glywed fod y Cynghorydd Edward Hancock wedi penderfynu ymddeol. Serch hynny, rydym ni'n hapus i gyhoeddi fod Emyr Webster, rhywun sydd wedi chwarae rol blaengar iawn yn y gymuned, wedi cael ei ddewis i gymryd ei le.

SÊRA EVANS-FEAR Sera Evans Fear

Cafodd Sêra ei hethol fel Cynghorydd ar gyfer Ward Treorci yn 2008. Mae Sêra'n mynychu cyfarfodydd PACT yn Ynyswen a Threorci, mae hi'n Lywodraethwraig yn Ysgol Gynradd y Parc ac yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Mae Sêra'n aelod o Bwyllgor Rheoli Neuadd y Parc ac mae hi'n aelod o Bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cyngor. Ganed Sêra yng Nghwmparc ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, a Phrifysgol Rhydychen. Mae Sêra ar hyn o bryd yn gweithio fel Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae Sêra'n Gynghorwraig brwdfrydig, gofalgar a di-flewyn ar dafod, sy'n adnabyddus am ei hagwedd rhagweithiol a'i dyfalbarhad. 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CENNARD DAVIESCennard Davies

Addysgwyd Cennard yn Ysgol Gynradd Treorci, Ysgol y Porth a Phrifysgol Cymru, Abertawe. Roedd yn athro yn Ysgol y Porth, yng Ngholeg Addysg Caerdydd a Phrifysgol Morgannwg, ble'r roedd yn Bennaeth Astudiaethau Ieithyddol. Mae Cennard wedi ysgrifennu sawl llyfr, nifer o erthyglau a nifer o gyrsiau Cymraeg. Mae'n helpu cynhyrchu papur Bro'r Rhondda, Y Gloran, yn Is-Lywydd yng Nghlwb Rygbi Treorci, yn Ysgrifennydd Capel Hermon and ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Gymraeg Treorci a'r Cylch. Mae gan Cennard ddiddordeb mewn materion addysgiadol ac amgylcheddol ac mae'n aelod o Bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cyngor. Mae Cennard yn Gynghorydd profiadol ac angerddol.
 

 

 
 

 

EMYR WEBSTEREmyr

Mae gan Emyr gysylltiadau gref gyda bob rhan o Ward Treorci ac mae ganddo ddealltwriaeth da o'r gymuned. Ar ol byw yng Nghwmparc am 13 mlynedd, mae e erbyn hyn byw yn High Street, Treorci. Ar ol derbyn ei addysg yn Ysgol Gyfun Treorci, aeth Emyr i weithio yn Sain Tathan, ond mae pawb yn ei adnabod fel cyn-reolwr Decomate yn Bute Street. Ar yr adeg yma, Emyr oedd ysgrifennydd Siambr Masnach Treorci ac mae e hefyd wedi bod yn aelod o fyrddau llywodraethu sawl ysgol yn y Ward. Roedd Emyr yn un o drefnwyr mwya' blaengar Gwyl Treorci a gynhaliwyd yn y dref yn ddiweddar. Mae Emyr ar hyn o bryd yn gweithio yn y Tattoo Studio ym Mhentre, ac mae e hefyd yn gosod paneli solar ar dai. Mae Emyr yn ddyn dyumunol ac egniol, sydd a cydwybod cymunedol cryf. Bydd Emyr yn Gynghorydd a fydd yn cynrychioli trigolion Ward Treorci mewn modd effeithiol a brwdfrydig. Gobeithiwn yn fawr y wnewch chi cefnogi Emyr.

 

 

Cysylltwch a ni

Pwy ydym ni?

  • Edrychwch ar broffiliau'r Cynghorwyr Lleol ac Aelodau'r Gangen

Newyddion Diweddaraf

Cynllun y Wefan